Bydd Cerddwyr Cylch Teifi yn dechrau tymor newydd ym mis Hydref a bydd croeso i bawb i ymuno â nhw.

Y Gymraeg yw iaith y teithiau ond mae croeso i ddysgwyr o bob safon sy'n barod i wneud yr ymdrech i osgoi llithro i'r Saesneg.

Bydd y teithiau misol ar ddyddiau Sadwrn yn dechrau am 10.30yb ac fel arfer yn gorffen erbyn 12.30 neu 1yp. Weithiau trefnir man i gymdeithasu ar ôl cerdded i'r rhai sy'n dymuno. Dyma'r rhestr o deithiau'r tymor hwn.

  • Hydref 5 - Cilgerran - Ali Evans
  • Tachwedd 9 - Drefach Felindre - Dafydd Dafis
  • Rhagfyr 14 - Trefdraeth - Hedd Ladd Lewis
  • Ionawr 11 - Glog - Hefin a Linda Harris
  • Chwefror 8 - Llandudoch - Terwyn Tomos
  • Mawrth 8 - Nanhyfer - Siân Bowen
  • Ebrill 12 - Llwybr Barddoniaeth Blaenannerch / Aberporth - Gareth Wyn Jones
  • Mai 10 - Parc-llyn tua’r gorllewin ar lwybr yr arfordir - Howard Williams
  • Mehefin 14 - y Preselau - Hefin Wyn

Sylwch fod y rhan fwyaf ar yr ail ddydd Sadwrn yn y mis, ar wahân i'r daith gyntaf.

Gan fod Covid yn dal i fod o gwmpas, mae'r Cylch yn gofyn i gerddwyr fod yn wyliadwrus er mwyn peidio lledu'r haint, gan beidio â dod ar daith os ydynt yn hunan-ynysu, neu'n dangos unrhyw symptom sy’n gysylltiedig â’r haint.

Ni fydd y Cylch yn hysbysebu pob taith yn y papurau bro a'r papurau newyddion, gan fod pethau’n gallu newid ar fyr rybudd. Ond mae croeso i chi gysylltu er mwyn rhoi'ch enw ar y rhestr e-bostio i gael y manylion wythnos ymlaen llaw.

Cysylltwch â Philippa Gibson philippa.gibson@gmail.com, 07787 197630.