Mae ymgyrchwyr iaith wedi croesawu bwriad Cyngor Ceredigion i weithredu ar yr argyfwng tai yn y sir.
Yng nghyfarfod llawn y cyngor ddoe wythnos ddiwethaf, gofynnodd arweinydd y cyngor, Ellen ap Gwynn, i bwyllgor craffu drafod cynnig ar y mater yn ei gyfarfod nesaf ac i adrodd yn ôl cyn cyfarfod nesaf y cabinet ym mis Chwefror.
Amlinellodd y Cynghorydd Mark Strong yr angen am weithredu ar y mater yn y cyfarfod ddoe, gan egluro mai’r sir sydd â’r ganran uchaf ond tri o dai gwyliau o blith holl siroedd Cyrmu (sef 5.91 y cant), gyda’r ganran hon yn cynyddu i gymaint â 26 y cant yn ward Cei Newydd.
Galwodd y Cynghorydd Mark Strong, a baratodd gynnig ar y mater, ar Gyngor Ceredigion i:
• “Ychwanegu’n llais i’r cynghorau sir eraill yng Nghymru sy’n gofyn i Lywodraeth Cymru roi sylw brys i newid y ddeddfwriaeth gynllunio i gynnwys yr hawl i’n pwyllgorau rheoli datblygu reoli’r nifer o eiddo sy’n cael eu tynnu o’u stoc tai lleol a defnydd ymwelwyr achlysurol.”
• “Ymuno â siroedd eraill sydd yn galw ar Lywodraeth Cymru roi grym i gynghorau sir i reoli ail dai drwy [roi rheolau mewn lle sy’n golygu bod rhaid cael] caniatad cynllunio i newid annedd i dŷ gwyliau.”
• “Gofyn i Lywodraeth Cymru alluogi i gynghorau sir gyflwyno trothwy o gyfanwswm o dai gwyliau fesul ward.”
• “Gofyn i Lywodraeth Cymru rwystro perchnogion rhag newid ail-gartrefi i fusnesau er mwyn osgoi talu treth cyngor.”
Ymatebodd arweinydd y cyngor, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn (a eiliodd y cynnig), drwy ddatgan ei bod yn “cefnogi Mark [Strong] 100 y cant” gan gyfeirio at drafodaethau tebyg gan gynghorau sir Gwynedd a Chaerfyrddin.
Galwodd arweinydd y cyngor ar i’r cynnig gael ei drafod gan un o bwyllgorau craffu’r cyngor, ac i’r cyngor cyfan drafod a phasio’r cynnig yn dilyn hyn.
Dywedodd llefarydd ar ran Grŵp Cymunedau Cymdeithas yr Iaith, Jeff Smith: “Fe fuodd swyddogion Cyngor Sir Ceredigion yn gweithio’n galed iawn dros gyfnod y Nadolig yn ymchwilio mewn i’r gwahanol ffyrdd y gellir datrys yr argyfwng tai yn y sir.
"Mae ail gartrefi yn broblem anferth yng Ngheredigion ac mae’n braf gweld bod y cyngor yn bwriadu gweithredu. Mae’n braf gweld hefyd bod ewyllys gwleidyddol yn bodoli ac yn deillio o arweinyddiaeth y cyngor, gyda’i arweinydd Ellen ap Gwynn yn ei gwneud yn glir yng nghyfarfod diweddaraf y cyngor fod angen gweithredu ar y mater hwn.
"Mae angen nawr i bwyllgor cymunedau ffyniannus y cyngor drafod y cynnig cyn cyfarfod nesa’r Cabinet ym mis Chwefror.”
“Mae’r argyfwng yn broblem genedlaethol. Fel rhan o’n dogfen weledigaeth ar gyfer yr etholiad, ‘Mwy Na Miliwn’, rydyn ni’n cynnig amryw o bolisïau posib y gellid eu gweithredu i ddatrys y broblem.
"Mae angen cyflwyno Deddf Eiddo fydd yn rhoi rheolaeth gymunedol ar y farchnad dai i sicrhau cartrefi lleol i bawb. Mae angen hefyd i’r Llywodraeth nesaf osod cap ar ganran yr ail gartrefi sydd mewn cymuned, rheoli prisiau rhent fel eu bod yn fforddiadwy i bobl sydd ar gyflogau lleol a gosod uwch-dreth ar elw landlordiaid i fuddsoddi mewn dod â thai gweigion ac ail gartrefi yn ôl i ddefnydd cymunedau.
“Nawr yw’r amser i bob plaid ymrwymo i gyflwyno Deddf Eiddo yn y Senedd nesaf a phenderfynu am unwaith i flaenoriaethu cymunedau, nid cyfalafiaeth.”
Comments: Our rules
We want our comments to be a lively and valuable part of our community - a place where readers can debate and engage with the most important local issues. The ability to comment on our stories is a privilege, not a right, however, and that privilege may be withdrawn if it is abused or misused.
Please report any comments that break our rules.
Read the rules here