Tivyside Advertiser - Memorials

Search Acknowledgements, Death Notices and In Memoriam within Ceredigion

I'm looking for celebrations
Death Notice

Dylan Rees

Published on 04/10/2022

REES Dylan 25/9/1979 - 26/9/2022 Hunodd yn ddisymwth ond yn dawel ar ddydd Llun Medi 26 yn Nhy Cwm Gwendraeth, Llannon, Tumble yn 43 oed. Yn gynt o 1Brynteifi, Penrhiw, Llandudoch. Mab annwyl Graham a Gwenllian, brawd cariadus Wyn, Aled, Sian a brawd-yng-nghyfraith James, wncwl hoffus Rhodri, Tom, Gwilym, Ella, Harri a Rhys, a ffrind ffyddlon i lawer. Bydd yn golled enfawr i'w deulu a'i ffrindiau. Angladd gyhoeddus ddydd Mawrth, Hydref 11 yn Eglwys Sant Tomos, Llandudoch am 12:30 y prynhawn, ac yna yn Amlosgfa Parc Gwyn, Arberth am 2:30 y prynhawn. Blodau teulol yn unig, ond derbynnir rhoddion, er cof am Dylan, i 'Ymddiriedolaeth Elusennol Rygbi Cymru', a fu'n gymorth parhaus i Dylan a'i deulu dros y naw blynedd a hanner diwethaf. Derbynnir y rhoddion yn garedig trwy law Trefnyddion Angladdau Colin Phillips a'i Ferched, 4 Stryd Morgan, Aberteifi, SA43 1DF. Ffon: 01239 621192.

Tributes

Create a tribute, leave a message or share a picture.